Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 23 Hydref 2019
Amser:
09.23 -
11.56
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5763
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Jayne Bryant AC Angela Burns AC Helen Mary Jones AC Lynne Neagle AC David Rees AC |
Tystion: |
Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Frances Duffy, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru Sarah Tyler, Llywodraeth Cymru Emma Parfitt, Undeb Amddiffyn Meddygol a Deintyddol yr Alban David Sturgeon, Undeb Amddiffyn Meddygol a Deintyddol yr Alban Dr Matthew Lee, Yr Undeb Amddiffyn Meddygol Mary-Lou Nesbitt, Yr Undeb Amddiffyn Meddygol |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Amy Clifton (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) Gareth Pembridge (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
2.2 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am y rhaglen ymgysylltu y mae'r Gweinidog a'i swyddogion yn ei chynnal fel rhan o'r ymgynghoriad a fydd yn llywio'r Cod Ymarfer.
2.3 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ynghylch cyhoeddi cofrestr meddygon teulu ar gyfer awtistiaeth a chyhoeddi data am amseroedd aros ar gyfer plant a phobl ifanc.
3.1 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor, fuddiant fel meddyg teulu sydd wedi talu indemniad meddygol yn y gorffennol. Cadarnhaodd nad oes unrhyw fuddiant penodol ar hyn o bryd gan fod indemniad bellach yn cael ei dalu ar lefel practis, ac nid ar lefel bersonol.
3.2 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
3.3 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ynghylch trosglwyddo asedau.
4.1 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor, fuddiant.
4.2 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sefydliadau Amddiffyn Meddygol.
5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
7.1 Nododd y Pwyllgor y themâu allweddol i'w cynnwys yn yr adroddiad drafft.